Beth yw Crwner?
Swyddog ynadol annibynnol yw crwner, a benodir gan yr awdurdod lleol o fewn ardal y crwner.
Fel arfer, cyfreithiwr yw crwner, ond gallai fod yn feddyg. Mae’n gweithio o fewn fframwaith cyfreithiol a basiwyd gan Senedd y DU.
Bydd uwch grwner ym mhob ardal crwner. Weithiau, mae’r uwch grwner yn cael ei gefnogi gan grwner ardal yn ogystal â charfan o Grwneriaid Cynorthwyol.
Mae crwneriaid ardal a chrwneriaid cynorthwyol hefyd yn cael eu penodi gan yr awdurdod lleol a'u cymeradwyo gan y prif grwner a'r Arglwydd Ganghellor.
Maen nhw yr un mor gymwys ac mae ganddynt yr un pwerau â'r Uwch Grwner wrth ddelio â marwolaethau a chwestiynau.
Y Prif Grwner sy'n arwain gwasanaeth y crwner ac yn rhoi arweiniad ar safonau ac arferion.
Beth mae Crwner yn ei wneud?
Nid yw’r Crwner yn cael gwybod am bob marwolaeth.
Bydd y Crwner yn cael gwybod am farwolaeth ac yn ymchwilio iddi os oes ganddo reswm i feddwl:
- nad yw achos y farwolaeth yn hysbys
- bod y farwolaeth yn dreisgar neu'n annaturiol; neu
- bod y person wedi marw tra roedd yn y carchar, yn nalfa'r heddlu neu fath arall o gadw gan y wladwriaeth megis canolfan fewnfudo, neu tra eu bod dan orchymyn yn unol â Deddf Iechyd Meddwl 1983
Ar ôl cael gwybod am farwolaeth, bydd y crwner yn:
- Penderfynu a oes angen ymchwiliad
- Os oes, bydd yn ymchwilio i ganfod pwy yw'r person sydd wedi marw; sut, pryd a ble y bu farw; ac unrhyw wybodaeth sydd ei hangen i gofrestru'r farwolaeth; a
- defnyddio gwybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad i helpu i atal marwolaethau eraill, lle bo hynny'n bosibl.
Pan fydd y Crwner yn cael gwybod am farwolaeth, bydd rhaid i'r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau lleol aros i'r Crwner orffen ei ymholiadau cyn y gellir cofrestru'r farwolaeth.
Bydd papurau yn cael eu cyflwyno wedyn, sy'n caniatáu i'r angladd fynd yn ei flaen. Mewn rhai achosion, gall y Crwner agor cwest, sef ymchwiliad barnwrol i'r farwolaeth.
Beth yw Swyddogion y Crwner?
Mae’r crwner yn cael ei gefnogi gan dîm o swyddogion y crwner. Yng Ngwent, fe'u cyflogir gan Heddlu Gwent a Chyngor Dinas Casnewydd.
Mae swyddogion y crwner yn gweithio o dan gyfarwyddyd y crwner ac yn cysylltu â theulu’r unigolyn sydd wedi marw, yn ogystal â'r heddlu, meddygon, tystion, staff corffdy, staff profedigaeth mewn ysbytai a threfnwyr angladdau.
Pan fyddwch chi’n cysylltu â swyddfa'r crwner, fel arfer byddwch chi’n siarad gydag un o swyddogion y crwner. Hyd yn oed pan fydd y crwner yn ystyried mater rydych chi wedi'i godi, mae'n debygol y byddwch chi’n dal i gyfathrebu ag un o swyddogion y crwner o hyd (oherwydd mai barnwr yw’r crwner).
Mae gan rai gwasanaethau crwner staff sydd â dyletswyddau/cyfrifoldebau eraill hefyd. Yng Ngwasanaeth Crwner Gwent, mae gennym swyddogaeth gwasanaeth cymorth sy'n ymgymryd â'r holl ddyletswyddau gweinyddol yng ngwaith y crwner.