Beth yw ymchwiliad crwner?

Mae ymchwiliad crwner yn wahanol i ymchwiliad troseddol. 

Os bydd crwner yn ymchwilio, nid yw hyn yn golygu bod amheuaeth o gamwedd neu drosedd.

Ymchwiliad y crwner yw'r broses lle mae’r crwner yn sefydlu pwy sydd wedi marw, a sut, pryd a ble y bu farw.

Gall y crwner benderfynu, fel rhan o'r ymchwiliad, i gynnal cwêst, sef ymchwiliad sy’n ceisio canfod ffeithiau. Weithiau, fe’i cynhelir mewn llys.

Mewn rhai achosion, gall marwolaeth gael ei chyfeirio at yr heddlu i'w harchwilio ar ran y crwner. Gall hyn fod oherwydd bod arbenigedd gan yr heddlu, e.e. marwolaeth o wrthdrawiad ar y ffyrdd.

Mewn rhai achosion, mae'n ofynnol i sefydliadau eraill fel yr ysbyty, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf, y Comisiwn Ansawdd Gofal, neu Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu gynnal ymchwiliad ar wahân i'r farwolaeth. 

Fel arfer, bydd ymchwiliad hwn yn cael ei gynnal gyntaf a bydd y crwner yn cael y canlyniadau er mwyn iddo allu defnyddio'r wybodaeth yn y cwêst.

Oes gennych chi gwestiwn?

Os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni