Pryd mae’r crwner yn cael gwybod am farwolaeth?

Bydd rhaid i Archwiliwr Meddygol, feddyg neu heddlu roi gwybod i’r crwner am farwolaeth mewn rhai amgylchiadau. 

Dyma rai enghreifftiau:

  • ni welwyd yr ymadawedig gan feddyg yn ystod ei salwch diwethaf
  • er bod meddyg wedi gweld yr ymadawedig yn ystod ei salwch diwethaf, ni all y meddyg ardystio'r farwolaeth, neu nid yw’r meddyg ar gael
  • nid yw achos y farwolaeth yn hysbys
  • ymhob achos pan fydd plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed yn marw (hyd yn oed os yw’r unigolyn wedi marw oherwydd achosion naturiol) 
  • mae’r farwolaeth wedi digwydd yn ystod llawdriniaeth neu cyn deffro o anesthesia
  • mae’r farwolaeth wedi digwydd yn y gwaith, neu o ganlyniad i afiechyd diwydiannol/ wenwyn
  • roedd y farwolaeth yn sydyn, yn anesboniadwy neu'n gysylltiedig â damwain
  • roedd y farwolaeth yn annaturiol (gan gynnwys y posibilrwydd bod y person wedi lladd ei hun)
  • roedd y farwolaeth o ganlyniad i drais neu esgeulustod
  • roedd y farwolaeth wedi digwydd mewn amgylchiadau amheus eraill
  • roedd y farwolaeth wedi yn y carchar, dalfa'r heddlu neu fath arall o garchariad gan y wladwriaeth

Os ydych chi’n credu nad yw’r crwner wedi cael gwybod am farwolaeth sy’n debyg i’r rhai uchod, gallwch roi gwybod iddo eich hun. Dylech chi wneud hyn cyn gynted â phosibl a chyn yr angladd.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith i roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.

Beth sy'n digwydd pan fydd y crwner yn cael gwybod am farwolaeth

Nid yw’r crwner yn cael gwybod am bob marwolaeth. Fel arfer, gall meddyg y person sydd wedi marw (neu feddyg ysbyty sydd wedi bod yn ei drin) roi achos marwolaeth a chyflwyno Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth (MCCD).

Mae llai na hanner yr holl farwolaethau yn cael eu hadrodd i'r crwner ond pan fydd hyn yn digwydd, bydd y crwner yn ystyried y wybodaeth, yn cynnal ymholiadau cychwynnol er mwyn penderfynu a ddylid ymchwilio i'r farwolaeth. 

Bydd y crwner yn penderfynu os

Os bydd y crwner yn penderfynu bod achos y farwolaeth yn glir, bydd y crwner yn cyfeirio'r farwolaeth at y meddyg i gwblhau Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth (MCCD). 

O 9 Medi 2024, bydd y dystysgrif yn cael ei rhoi i'r Swyddfa Gofrestru yn dilyn craffu gan yr Archwiliwr Meddygol. Ar ôl i’r cofrestrydd dderbyn y MCCD, wedyn gellir cofrestru'r farwolaeth.

Efallai y bydd y crwner yn penderfynu bod angen gwneud post-mortem i ddarganfod sut y bu farw'r unigolyn.

Ni allwch wrthod post-mortem crwner - ond os rydych chi’n gofyn, mae’n rhaid i'r crwner ddweud wrthych chi (a meddyg teulu'r unigolyn) pryd a ble y cynhelir yr archwiliad.

Ar sail y canlyniadau, bydd y crwner yn gwneud un o’r tri pheth canlynol:

  • canfod bod y farwolaeth yn un naturiol a chau'r achos
  • parhau â'r broses ymchwilio, i gael mwy o wybodaeth gan feddygon neu bobl eraill sy'n gysylltiedig â’r farwolaeth
  • agor cwêst

I gael rhagor o wybodaeth, ar we post-mortem.

Ar ôl y post-mortem

Bydd y crwner yn dychwelyd y corff ar gyfer yr angladd ar ôl cwblhau'r archwiliadau post-mortem a phan nid oes angen archwilio ymhellach.

Mae cwêst yn wrandawiad llys sy’n ceisio canfod ffeithiau am amgylchiadau'r farwolaeth. 

Bydd rhaid i grwner gynnal cwest yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • mae achos y farwolaeth yn anhysbys o hyd
  • mae’n bosibl bod y person wedi cael marwolaeth dreisgar neu annaturiol
  • mae’n bosibl bod y person wedi marw yn y carchar neu yn nalfa'r heddlu

Oes gennych chi gwestiwn?

Os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni