Gwybodaeth i reithwyr, tystion ac ymwelwyr llys
Rydym yn deall bod mynychu cwêst yn broses newydd iawn i'r rhan fwyaf o bobl ac rydym am egluro beth sy'n debygol o ddigwydd tra byddwch yn ymweld â ni.
Fforwm cyhoeddus yw cwêst, a gall unrhyw aelod o’r cyhoedd neu’r wasg ddod. Weithiau, bydd tystion yn cael eu galw i roi tystiolaeth ac mewn rhai achosion, bydd cwestau'n digwydd o flaen rheithgor.
Wrth gyrraedd y llys, bydd yr holl ymwelwyr yn cael eu cyfarch gan aelodau o Wasanaeth Crwneriaid Gwent. Rydym hefyd yn cael ein cefnogi gan elusen Gwasanaeth Cefnogi Llys y Crwneriaid (CCSS).
Byddwn yn esbonio’r wybodaeth gadw tŷ a gwybodaeth gyffredinol ganlynol gyda chi:
- cadw tŷ — toiledau, y larwm tân ac ati
- defnyddio ffonau symudol a thechnoleg arall
- cyfryngau cymdeithasol ac adrodd
Yn dibynnu ar natur eich ymweliad e.e. p'un a ydych yn rheithiwr, yn dyst, o’r wasg neu'n aelod o'r cyhoedd sy’n dod i arsylwi'r achos, byddwch yn cael gwybodaeth a chyfarwyddyd sy'n berthnasol i chi a'r cwestau a sydd wedi’u trefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Nid oes cod gwisg ffurfiol ar gyfer llys y crwner. Fodd bynnag, bydd teulu'r person sydd wedi marw yno, a gofynnwn i ymwelwyr wisgo'n weddol drwsiadus o ran parch. Ni chaniateir hetiau yn y llys.
Treuliau rheithwyr a thystion
Mae'r lwfansau y bydd modd i chi eu hawlio wedi'u pennu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maen nhw'r un fath ar gyfer rheithwyr ym mhob llys arall.
- os ydych yn gyflogedig, ac nid yw eich cyflogwr yn fodlon talu cyflog i chi tra byddwch ar y rheithgor, byddwch chi’n gallu cyflwyno cais am golli enillion hyd at £64.95 y dydd
- gallwch chi hawlio'ch arian yn ôl am deithio dosbarth safonol ar drafnidiaeth gyhoeddus (ar ôl cyflwyno derbynebau)
- gallwch hawlio am gost teithio mewn car ar 45c y filltir a chostau parcio (ar ôl cyflwyno derbynebau)
- gallwch hawlio lwfans o hyd at £4.50 y dydd am ginio/lluniaeth (ar ôl cyflwyno derbynebau)
Gellir e-bostio ffurflenni treuliau wedi'i chwblhau at: [email protected] neu anfonwch nhw at:
Gwasanaeth Crwner Gwent
Pentref Busnes Livingstone House Langstone
Parc Langstone
Casnewydd
NP18 2LH
Beth yw Person â Buddiant?
Diffinnir 'person â buddiant' yn y ddeddfwriaeth (dan adran 47(2) o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009).
Os ydych yn berthynas agos neu'n gynrychiolydd personol i’r person sydd wedi marw, ystyrir eich bod yn 'berson â diddordeb'. Mae gan berson â buddiant hawliau penodol yn ystod yr ymchwiliad a'r cwêst. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gael gwybod am ddyddiad y gwrandawiad ac i dderbyn dogfennau gan y crwner sy’n cael eu defnyddio yn y gwêst.
Mae'r diffiniad o berson â buddiant hefyd yn cynnwys person sy'n gysylltiedig â'r farwolaeth, person a benodwyd gan un o adrannau'r llywodraeth i fynychu'r cwêst neu i ddarparu tystiolaeth, ac unrhyw un arall sydd â buddiant digonol, ym marn y crwner.