Mae post-mortem (awtopsi), yn archwiliad meddygol o gorff wedi marwolaeth. 

Fel arfer, mae post-mortem yn cynnwys llaw-drin y corff i’w archwilio’n fewnol. Weithiau, gellir sganio’r corff yn lle.

Nod post-mortem yw canfod achos y farwolaeth a phenderfynu a oes angen cwêst.

Nid yw’r crwner yn gwneud y post-mortem eu hun fel arfer. Bydd patholegydd wedi’i gymhwyso yn gwneud hyn ar ran y crwner. Bydd y patholegydd sy'n gwneud y post-mortem yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer y crwner. Gallwch chi ofyn i swyddfa'r crwner am gopi.

Os yw eich perthynas wedi marw a bod ei farwolaeth wedi’i dwyn at sylw’r crwner, ni fydd gofyn i chi roi caniatâd i wneud y post-mortem. Mae hyn oherwydd, yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r crwner wneud post-mortem pan fydd marwolaeth yn sydyn, yn amheus neu'n annaturiol.

Weithiau bydd samplau o waed neu feinwe'r corff, gan gynnwys organau, yn cael eu cadw ar ôl i'r corff gael ei ddychwelyd os bydd angen gwneud profion ac ymchwiliadau pellach i bennu achos y farwolaeth. Byddwch yn cael dewis o sawl opsiwn ynglŷn â beth sy'n digwydd i'r meinwe hon.

Oes gennych chi gwestiwn?

Os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni