Bydd rhaid i unrhyw un sydd eisiau symud corff allan o Gymru a Lloegr (gan gynnwys i'r Alban) gael awdurdod gan y crwner. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os oedd y farwolaeth yn gwbl naturiol ac nad oedd angen rhoi gwybod i'r crwner cyn cofrestru.
Os ydych chi eisiau dychwelyd corff i’w famwlad, bydd trefnydd yr angladd yn gwneud hyn ar eich rhan.
Byddan nhw’n:
- cwblhau hysbysiad i'r crwner o'r 'bwriad i symud corff allan o Gymru neu Loegr
- cyflwyno datganiad neu math o brawf adnabod ar gyfer yr ymadawedig
- darparu manylion cyswllt ar gyfer y perthynas agosaf
- darparu copi o'r dystysgrif marwolaeth ( oni bai bod cwêst wedi'i hagor)
Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth cyn trefnu dychwelyd y corff i’w famwlad.
Ar ôl gwneud y cais, bydd y crwner, maes o law, yn rhoi awdurdod i ddychwelyd y corff (Ffurflen 103).
Ni ddylai trefnwyr angladdau drefnu hediadau dychwelyd nes bod ganddynt yr awdurdod llofnodedig. Ni allwn gymryd cyfrifoldeb am hediadau a gollwyd a archebwyd cyn cael yr awdurdod ymlaen llaw.
Nid oes angen awdurdod gan y crwner i ddychwelyd lludw o amlosgi. Os ydych chi’n bwriadu cludo lludw mewn awyren, cysylltwch â'ch cwmni hedfan i ofyn am gyngor penodol.