Mae gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn golygu bod modd i chi roi gwybod am farwolaeth i'r rhan fwyaf o sefydliadau'r llywodraeth ar yr un pryd.

Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd y person sydd wedi marw:

  • fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
  • dramor dros dro (er enghraifft, ar wyliau neu ar daith fusnes)

Cysylltwch â swyddfa gofrestru i ddefnyddio gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith. 

Byddan nhw naill ai'n:

  • cwblhau proses Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
  • rhoi cyfeirnod unigryw i chi er mwyn i chi allu defnyddio'r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Crwner Gwent?

Oes gennych chi gwestiwn?

Os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni