Bydd y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am gwestau sydd i ddod, gwrandawiadau cwest a chwestau a fydd yn cael eu cwblhau yn ysgrifenedig (yn hytrach nag yn y llys).
Dewch yma i wirio am ddiweddariadau a newidiadau.
Agor Cwêst
Cynhelir agoriadau cwest am 9am bob bore Llun yn Llys Crwneriaid Gwent.
Ar gyfer Gwyliau Banc, bydd ar fore Mawrth (oni nodir yn wahanol).
Gwrandawiadau cwest (yn y llys)
Mae'r dudalen we hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd felly dewch yma i wirio am ddiweddariadau a newidiadau.
Cwestau ysgrifenedig (nas gwrandewir arnynt yn y llys)
Os ymddengys bod achosion yn syml ac yn annadleuol, 'cwest mewn ysgrifennu' yw'r dull casglu a gorau er mwyn hwyluso'r broses ac i osgoi unrhyw drallod diangen pellach i'r rhai mewn profedigaeth.
Os hoffech gyflwyno achos i gael gwrandawiad cwest yn y llys, mae angen cyflwyno hynny’n ysgrifenedig neu e-bost i [email protected] erbyn y dyddiad ymateb uchod.
Bydd y crwner ond yn ystyried achos sy'n wahanol iawn i'r dystiolaeth a welwyd eisoes a/neu y gellir barnu ei fod er budd y cyhoedd.