Gwasanaethau cofrestru a thystysgrifau marwolaeth

Mae'n ofyniad cyfreithiol i ddweud wrth y llywodraeth bod person wedi marw. 

Fodd bynnag, os bydd y crwner yn penderfynu ymchwilio i'r farwolaeth, ni ellir cofrestru'r farwolaeth ar unwaith. Bydd rhaid i'r cofrestrydd genedigaethau a marwolaethau aros i'r crwner gwblhau ei ymchwiliad cyn cofrestru'r farwolaeth. 

Byddwch yn cael gwybod pryd a sut y caiff y farwolaeth ei chofrestru ar ôl i’r crwner roi'r gorau i'r ymchwiliad neu ar ôl iddo gwblhau yr ymchwiliad a'r cwêst.

Bydd y crwner yn penderfynu un o’r canlynol:

  • mae achos y farwolaeth yn glir
  • mae angen gwneud post-mortem
  • mae angen cynnal cwêst

Os yw achos y farwolaeth yn glir, bydd y meddyg a'r Archwiliwr Meddygol yn llofnodi tystysgrif feddygol o achos y farwolaeth (MCCD). O 9 Medi 2024, ni ellir cofrestru marwolaeth nes bod yr Archwiliwr Meddygol yn anfon yr MCCD i'r Swyddfa Gofrestru lle digwyddodd y farwolaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses MCCD neu Archwilwyr Meddygol, gweler yr wybodaeth am y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol ar wefan y GIG.

I gysylltu â'r gwasanaeth, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 02921 500799.

Os bydd post-mortem wedi'i wneud, bydd y crwner yn dychwelyd y corff ar gyfer yr angladd pan fydd yr archwiliad post-mortem wedi'i gwblhau a phan nid oes angen rhagor o archwilio. Bydd y crwner yn rhoi tystysgrif i'r cofrestrydd (a elwir yn ffurflen CN2) sy’n nodi bod post-mortem wedi digwydd ac y gellir cofrestru'r farwolaeth.

Os yw'r crwner yn bwriadu cynnal cwêst, bydd tystysgrif marwolaeth dros dro yn cael ei chyflwyno er mwyn i chi allu rhoi gwybod i’r cofrestrydd am y farwolaeth. Rhoddir dogfennau hefyd i'ch galluogi i drefnu’r angladd. Pan fydd y cwêst wedi dod i ben, bydd y crwner yn cadarnhau achos y farwolaeth i'r cofrestrydd a gallwch gael y dystysgrif marwolaeth derfynol (gan y cofrestrydd).

Gallwch ddefnyddio'r dystysgrif marwolaeth interim i wneud cais am brofiant ac ati.

Ar gyfer manylion cyswllt y Gwasanaeth Cofrestru, cliciwch yma.

Oes gennych chi gwestiwn?

Os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni